Darfydded dydd, darfydded nôs,
Fel mynyd bach o'r awr;
Tra f'wyf yn caru a rhoi 'mhwys,
Ar fynwes f'Arglwydd mawr.
Dymunwn yma dreulio'm hoes,
O fore hyd prydnawn,
Lle cawn i wylo cariad pur,
Yn ddagrau melys iawn.
Fe ddaeth y Iubil werthfawr lawn,
Ar ol och'neidio'n hir;
Ac mi ges weled hyfryd ran,
O'r Baradwysaidd dir.
Mae durtur yr efengyl fwyn,
Yn galw bro a bryn;
Doed torf aneirif
tu a'r wlad,
Gyd â'r awelon hyn.
Fe wnaeth ei babell yn ein plith,
A'i bresenoldeb sy'
Yn troi pob cystudd
chwerw loes
Yn hyfryd hêdd i ni.
Boed dyoddefiadau pur y groes,
Fel olew i'm iachâu:
Griddfanau dyfnion angeu loes,
I'm rhoddi i lawenhâu.
- - - - -
Darfydded dydd, darfydded nôs,
Fel mynyd bach o'r awr;
Tra f'wyf yn caru a rhoi 'mhwys,
Ar fynwes f'Arglwydd mawr.
Fe'm siommwyd gan bleserau'r llawr,
Fe'm twyllwyd gan bob un;
Ffowch bob eilunod, rhois ffarwel
I ddaear ac i ddyn.
Ni throf fy wyneb byth yn ôl,
I 'mofyn pleser gau;
Ond mi a gerddaf tu a'r wlad
Sy a'i phleser i barhau.
Eisteddais dan ei gysgod ef,
A'i ffrwyth oedd felus iawn;
Ac yma treuliwn ddyddiau f'oes,
Fyth fyth yn ddedwydd iawn.
Mae yn ei gariad bethau mwy
Nag fedd y byd yn un;
A phrawf o hono ydyw'r fraint,
Oruchaf gafodd dyn.
William Williams 1717-91
Tôn: [MC 8686]: St Bernard (Tochter Sion 1741) gwelir: Boed dyoddefiadau pur y groes Darfyddwn son am bleser mwy F'Anwylyd sydd fel lili hardd Fe ddaeth y Jubil werthfawr lawn Fe'm siomwyd gan bleserau'r llawr Mae durtur yr efengyl fwyn Na foed fy mywyd bellach mwy Ni feddaf ar y ddaear lawr Ni gawsom y Messia'n rhad Ni throf fy ŵyneb byth yn ôl Ni's gall angylion pur eu dawn O deffro'n fore f'enaid gwan Pan ddelo angeu yn ei rwysg Yn mysg gwyryfon Seion fry |
Let day vanish, let night vanish,
Like a small minute of an hour;
While I am loving and resting on,
The bosom of my great Lord.
I would ask to spend my age here,
From morning until afternoon,
Where I may weep pure love,
In very sweet tears.
The fully valuable Jubilee came,
After long groaning;
And I got to see a delightful part;
Or the paradisiacal land.
The turtle-dove of the gentle gospel, is
Calling vale and hill;
Let an innumerable throng come
towards the land,
With these breezes.
He made his tent amongst us,
And it is his presence that is
Turning every tribulation
of bitter affliction
To delightful peace for us.
Let the pure sufferings of the cross, be
Like oil to heal me:
The deep groans of the throes of death,
Given to make me rejoice.
- - - - -
Let day vanish, let night vanish,
Like a small minute of an hour;
While I am loving and leaning
Upon the bosom of my great Lord.
I was disappointed by many pleasures,
I was deceived by every one;
Flee ye, every idol, I have bidden farewell
To earth and to man.
I shall never turn my face back,
To ask for false pleasures;
But I shall walk towards the land
Which has enduring pleasures.
I sat under his shadow,
With his fruit which was very sweet;
And here I would spend the days of my age,
Forever and ever very happily.
There are in his love more things
Than the whole world possesses;
And a test of this is the supreme
Privilege man ever got.
tr. 2016,19 Richard B Gillion
|
|